Saturday 27 June 2009

Stori Ifan y Barbwr, Dosbarth 4 Ysgol Dolbadarn/Ysgol Dolbadarn class 4 story, Ifan the Barber

Barbwr oedd Ifan, barbwr clen, dipyn yn swil. Ifan oedd y barbwr gorau un yn y wlad. Roedd yna dywysoges hardd... wel... hyfryd a deud y gwir. Ei henw oedd Mair Mwyn gan ei bod yn ferch annwyl iawn. Roedd mair yn byw mewn castell hyfryd hyfryd iawn. Roedd efo'r gwallt mwya hardd yn y wlad, gwallt melyn disglair.
Un diwrnod cafod Ifan y Barbwr y job mwya cafodd o rioedd - gwaith torri a lliwio gwallt mair y dywysoges, oherwydd roedd Mair Mwyn yn priodi rhyw dywysog o'r enw Simon.
Pan orffennodd dorri a lliwio gwallt Mair y dywysoges sylweddolodd Ifan bod llond botel o liw gwallt wedi disgyn ar gefn y ffrog, ac roedd staenanferth, hyll ac roedd y ffrog yn edrych yn ofnadwy. Roedd gan Ifan ofn am ei fywyd, wir rwan... roedd o wedi dechra mynd yn goch!
"Ifan" gofynodd y dywysoges "tra mae fy ngwallt yn sychu, wnei di chwarae y bib hardd, swynol i mi"
"Y, ia... iawn" a dyma Ifan yn chwarae'r offeryn. Gafaelodd Ifan yn dynn ac yn nerfus ar y bib ac yn ei chwarae i'r dywysoges hardd a dyna hi yn ymlacio.
Ond dyma geiriau y gwirionedd yn dod allan o'r bib:
"Mae staen enfawr ar dy ffrog hardd di", synnodd Ifan a'r dywysoges yn fawr iawn oherwydd bod y bib yn siarad!
Gwelodd y dywysoges y staen ar y ffrog a gwylltiodd tan aeth yn goch fel tomato poeth. Taranodd Mair Mwyn "Os to ddim yn cael y staen enfawr oddi ar y ffrog hardd erbyn 'fory yma fydda chdi ddim hefo pen!"
Aeth Ifan bach lawr at y llyn i feddwl am beth oedd wedi ei wneud i ffrog y dywysoges. Roedd mor flin mi luchiodd o y bib i'r llyn. Yn sydyn iawn gwelodd Ifan ben bach pluog hwyaden. Roedd yn edrych yn flin iawn. "Rwyt wedi fy nharo i!"
Synodd Ifan fod yr hwyaden yn gallu siarad. Dywedodd Ifan wrth y hwyden ei fod e’n mynd i gael ei ben wedi ei dorri i ffwrdd os dydi o ddim yn cael gwared o’r staen ar y ffrog erbyn fory.

“O, na beth ydw i’n mynd i wneud?”

“Beth wyt ti’n myn i wneud?” meddai’r hwyden yn grac.

“Gwranda ar fy mhroblem i. Mae Mam wedi mynd i chwlio am fwyd a dw i’n gorfod edrych ar ôl y rhai bach a dw i wedi eu colli nhw i gyd – yr wyth ohonyn nhw!” Roedd y hwyaden yn teimlo’n drist ac roedd Ifan yn ofni cael ei ben wedi torri i ffwrdd..

Dywedodd yr hwyaden “Wna i dy helpu di os wnei di fy helpu fi”

“Ie, ie! Wrth gwrs” meddai Ifan.

Gwelodd ifan canŵ ar ochr y llyn. Neidiodd Ifan i mewn i’r canŵ bach a rhwyfo mor gyflym a fedrai fo a’r hwyden yn hedfan wrth ei ymyl o. Roedd Ifan yn rhwyfo yn galed iawn, iawn.

Dechreuodd ei freichiau frifo yn ofnadwy ond cariodd ymlaen i rwyfo. Gwelodd Ifan yr hwyaid bach yn mynd tuag y rhaeadr fawr o’i flaen o .

“O, na!” meddai’r hwyaden. “Mae nhw’n mynd i gael eu lladd ac wedyn bydd Mam yn fy lladd i!”

“Rhaid i mi eu helpu nhw!”meddai Ifan

Rhuthrodd at yr hwyaid i achub nhw. Cododd yr hwyaid bach un ar y tro i fyny ar y canŵ efo’r rhwyf. Teimlodd Ifan yn falch ond yn sydyn sylweddolodd Ifan bod y canŵ yn symud efo’r llif tuag at y rhaeadr.

Yn sydyn gwelodd Ifan y bib yn y dŵr. Cododd y bib o’r dŵr a’i ganu fo.

“Arafa dŵr” meddai’r bib a dyma’r dŵr yn arafu a neidiodd Ifan a’r hwyaid ar y tir yn saff ac yn ddiolchgar.

“Oes ‘na ddŵr dal yn y bib?” gofynodd y hwyaden.

“Oes. Pam?” gofynodd Ifan.

“Dw i’n meddwl bod y dŵr am llnau y ffrog.

“Rhowch o yn fy ngheg” Dywedodd y hwyaden” “OK” meddai Ifan gan dywallt y dŵr yn ei cheg.

Aeth y hwyaden at ffenest ystafell y dywysoges a gollwng y dŵr ar y ffrog.

“Hwrê, mae’r ffrog yn lan!” meddai Ifan “Diolch i’r hwyaden”.

Ar y diwrnod mawr roedd pawb yn gwenu’n braf . Cododd Ifan y bib a’i ganu a dyma’r gwirionedd yn dod allan “Mae Ifan yn caru’r Dywysoges”

Ar ôl clywed y geiriau roedd pawb yn stond. Roedd pawb yn edrych ar eu gilydd fel lloi. Wedyn chwarddodd pawb ar ben Ifan.

Roedd y brenin efo ei geg ar agor ar ôl clywed bod Ifan y barbwr yn caru ei ferch y dywysoges a gwaeddodd y brenin fel maharan gwyllt “Dos allan a paid byth â dod nôl!”

Cymerodd y tywysog Simon y bib a’i thorri hefo ei benglin. Crac!

“Peidiwch â gwrando ar y hen bib.” Gwaeddodd o “Mwy o win! Mwy o gig!”

Wedyn edrychodd y dywysoges ar y bib ac roedd yn gyfan oherwydd roedd yn hud.

“Wna i weld os ydy’r tywysog yn fy ngharu” meddyliodd Mair.

Cymerodd y bib a’i rhoi i’r tywysog. “Rwy’n gwybod pa mor hyfryd rwyt ti’n chwarae’r bib. Wnei di ganu tiwn bach i mi?”

“Iawn meddai fe” Dyma fo yn chwarae’r bib a daeth y gwirionedd allan.

“Dydw i ddim yn caru Mair. Dw i ond eisiau’r arian a’r tir”

Roedd y brenin yn gacwn gwyllt.

“Dos o ma! Dwyt ti ddim yn haeddu priodi fy merch!” Roedd pawb yn pwyntio at y drws.

Aeth y tywysog cas trwy’r drws yn flin ac wedyn pwy ddoth mewn ond Ifan! Roedd pawb yn cychwyn clapio. Ac ar ôl Ifan daeth yr hwyaid dan ganu ac roedd gan y fam y modrwyon.

“Beth sy’n mynd ymlaen gofynnodd Ifan”

“Paid â phoeni, Ifan” meddai’r brenin “mae popeth yn iawn”

Ganodd y dywysoges y pib ac oedd y gwirionedd yn dod allan.

“Mae’r Dywysoges yn caru Ifan!”

Ac mae’r ficer yn darllen o’r llyfr an yn gweddïo. Ac mae’r bib hud yn canu hefyd ar ei ben ei hun. Mae’r hwyaid yn rhoi’r modrwyon ar fysedd Ifan a’r Dywysoges ac mae’r ficer yn dweud “Cewch chi gusanu’r briodferch”

Wedyn roedd Ifan a’r Dywysoges yn byw yn hapus am weddill eu oes.


Ifan the barber is told he will lose his head for ruining the princess’s dress the day before her wedding. With the help of a magic flute that can only tell the truth and a resourceful duck, Ifan makes everything all right again. During the wedding the magic flute reveals that the prince is not so charming after all, and also that the princess and barber love each other. Ifan and the princess live happily ever after.

Ysgol Y Bedol at Dinefwr


Ysgol y Bedol's visit to Castell Dinefwr:


Y Twrch Trwyth a'r Brenin Arthur, stori Ysgol Y Bedol/Ysgol Y Bedol's story, King Arthur and Y Twrch Trwyth (a mythological wild boar)

Amser maith yn ôl roedd yna Dwrch Trwyth yn byw yn y goedwig fawr dywyll ar bwys yr Afon Tywi. Roedd y Twrch yn chwech mlwydd oed a cafodd ei eni yn Yr Iwerddon.

Oherwydd camgymeriad cwympodd yn y môr pryd roedd yn dishgwl am fwyd a chafodd ei gario gan y llanw
draw i Gymru, ond hoffai fynd nol at ei rieni. Pob dydd roedd y Twrch yn mynd i’r afon i nôl rhagor o fwyd. Un diwrnod gwelodd y Twrch fachgen bach, tlawd saith mlwydd oed gyda hen flanced tamp dros ei ysgwyddau. Helpodd y bachgen y Twrch i ffeindio rhywbeth i fwyta. Penderfynodd y Twrch ei fod e eisiau bod yn ffrindiau gyda’r bachgen. Roedd y twrch yn gyfrwys ac yn fawr. Roedd ganddo ddanedd hir, pigog, brwnt. Roedd gwallt brown fel siocled bler drosto.

Y Brenin Arthur deyrnasai yn yr ardal. Brenin da oedd Arthur ac yr oedd yn byw mewn castell ar y mynydd. Castell Dinefwr oedd enw’r castell. O dan ei orsedd roedd bocs gyda aur ynddo. Aur hud oedd e. Roedd e wedi bod yn ei deulu ers blynyddoedd ac ar un darn roedd wyneb ei hen hen hen dad-cu. Er mwyn bod yn frenin roedd rhaid eistedd ar ben yr aur hudol.

Ar ol haf poeth sychodd yr Afon Tywi a dim ond tamed bach o ddwr oedd ar ôl. Sychodd y mwd, aeth i edrych fel siocled. Ar ôl i’r mwd craco aeth y mwd fel dail sych wedi marw.

Bwytodd y Twrch Trwyth popeth oedd yn ei ffordd sef pysgod, mwydod a madfallod y dŵr ond nawr mae’n bwyta anifeiliaid y ffermwyr! Defaid, gwartheg, ceffylau, geifr, cwn, cathod, twrcis ,ieir a chwningod. Roedd e’n dwgyd pethau heb ofyn. Roedd eisiau bwyd pob munud. Roedd e’n slopian a rhwygo croen anifaeliaid bach a mawr. Roedd e'n bwyta fel lleidr yn dwgyd.

Roedd wynebau’r ffermwyr yn gwgu oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud. Roedd ffermwr arall â stem yn dod allan o’i glustiau. Roedd un ffermwr mor grac roedd ei wyneb yn lliw tomato! Trafododd y ffermwyr a penderfynu mynd at y Brenin Arthur. Rhedon nhw i gastell Arthur fel tarannau trwy’r awyr. O’r diwedd cyrhaeddon nhw.

“Arthur agor y drws yma nawr!” bloeddion nhw. Agorodd Arthur y drws a dweud “Wnawn ni ymladd y Twrch Trwyth.Wnawn ni ladd y mochyn!”dywedodd.

Aeth y frwydr ymlaen am bythefnos. Marwodd chwe deg o filwyr yn y frwydr wrth gael eu trywannu yn eu calonnau gan ysgythrau y Twrch Trwyth. Roedd y Brenin Arthur yn gweld y gwair yn troi i mewn i garped coch o waed y milwyr.Un diwrnod ofnadwy o frwydro cafodd mab y Brenin Arthur ei ladd. Fel petai hyn ddim yn ddigon i Arthur edrychodd y Brenin dan ei orsedd a gweld dim. ”Beth” dywedodd Arthur “Rwy’n siwr roddais i aur fy nghyndeidiau o dan yr orsedd. Dydw i ddim yn teimlo fel brenin rhagor. Rwy’n gorfod ffeindio’r aur hud neu fydda i ddim yn frenin rhagor.”

Un noson dywyll ar ôl brwydro’n galed aeth y Twrch Trwyth i orffwys mewn rhyw stabl enfawr yn agos at fferm. Agorodd y gwynt y drws gwychlyd trwm yn araf, araf bach. Yn sefyll ar bwys y drws roedd y Brenin Arthur

“Dw i eisiau de help di!”

“Wel shwmae, Brenin Arthur?”

“Ddim y dda iawn Twrch Trwyth”

“Wel, shwd ydw i’n mynd i’ch helpu chi os nad ydych chi’n fy helpu i? Beth ydy dy broblem fach ‘te?”

“Nid problem fach ydy hi, ond problem fawr! Mae rhywun wedi dwgyd fy arian hudol a heb fy arian hudol fydda ddim yn gallu bod yn frenin. Rwy’n gwybod bod un o’r bobl yn y castell wedi dwyn yr aur ond dw i ddim yn gwybod pwy, felly dydw i ddim yn gallu trystio neb. Felly dw i wedi dod i siarad â ti i weld os yn ni’n gallu helpu’n gilydd heb ymladd. Heblaw am fwyd gallwn fynd â ti nôl at dy deulu di yn Iwerddon”

“Diolch am fy helpu, Arthur” meddai’t Twrch

“Dere ‘ma, machgen i!” gwaeddodd y Twrch Trwyth. Ar ol pum munud cyrhaeddodd y bachgen tlawd. Edrychodd y bachgen ar Arthur ac ar tyscs anferth y Twrch Trwyth. Roeddynt yn bigog, gyda gwaed sych a chroen yn sownd rhwng y danedd.

Yng ngolau cynnes y tân roedd danedd pigog y Twrch Trwyth yn sgleino fel sêr gwyn y nos. Syllodd y bachgen arnynt. Gwelodd y bachgen wyneb ar y tyscs hir, aur.

“Dyna’r wyneb oedd ar fy arian hudol i” meddai’r brenin mewn sioc.

“Edrychwch mae map ar y tyscs” meddai’r bachgen

“Mae croes ar y tysc ar bwys yr afon yn y goedwig” gwaeddodd y brenin

Bant â nhw i chwilio am yr arian hudol yn yr afon sydd yn llifo igam-ogam fel neidr i’r môr.

Yn sydyn clywodd y Twrch Trwyth sŵn rhyfeddol yn dod o tu ôl iddo fe. Sŵn fel dail yn crensian o dan cannoedd o draed.

Daeth milwyr enfawr, gyda chlefyddau a gwaywffyn a’r capten cas rownd y gornel.

“O, na, soch! Dringo lan ar fy nghefn i!” Rhedodd y Twrch Trwyth a’r bachgen ar ei gefn yn gyflym iawn, iawn. Doedd e ddim am i’r bachgen gael ei ladd.

Cipiodd y Capten Cas y Brenin Arthur yn dynn, dynn a dywedodd “Rydw i eisiau bod brenin newydd y byd”

“Fyddi di byth yn frenin dros neb!” gweaddodd Arthur yn wyllt fel y Twrch Trwyth.

“Sori, Arthur, ond rwy wedi yn barod” sgrechodd y Capten Cas yn hapus.

“Helpwch fi, plîs” ymbiliodd Arthur. Twlodd y Capten Arthur yn y carchar.

Am hanner nos clywodd y bachgen sŵn rhyfedd. Arthur oedd e, yn sgrechian fel ci mewn poen.

“Rhaid i ni helpu fe – brenin y byd yw e”

Cyrhaeddodd y Twrch Trwyth a’r bachgen y castell yng nghanol y nos. Roedd pob ystafell yn wag.

O’r diwedd cyrhaeddon nhw’r carchar, edrychodd y bachgen i fewn. Roedd popeth yn ddu fel y nos.

“Arhoswch i’r ochr” dywedodd y Twrch Trwyth a rhedodd trwy’r drws mawr derw. Aeth ei ddanedd hir yn sownd yn y wal. Daeth y Capten cas i mewn a cleddyf yn ei law dan waeddu “Dwi’n mynd i dy ladd di!”

Roedd y Twrch Trwyth a’i tyscs yn swnd yn y wal ac roedd e’n ffaelu symud ac roedd Arthur wedi glymu gyda tsaen. Y bachgen oedd yr unig un ar ôl yn rhydd.

“Ai ti yw’r unig berson sydd yn gallu stopio fi!” dywedodd y Capten yn ffraeth.

Cipiodd y bachgen yn ei flanced a’i daflu dros ben y Capten Cas a’i glymu fe. Wedyn cydiodd yn ei gleddyf a’i ladd.

Adeiladodd milwyr Arthur llong gryf i’r Twrch Trwyth i fynd nôl i Iwerddon i weld ei deulu e a roedd ei wely wedi cael ei wneud allan o fwd ffres a roedd lot o anifeiliad yna am ei de.

Cafodd y Twrch Trwyth siswrn a chrib aur rhwng ei glustiau a chafodd y bachgen fod yn gapten newydd y milwyr. A chafodd y brenin ei aur hudol yn ôl i’w gadw o dan ei orsedd.

The mythological wild boar Y Twrch Trwyth adopts a young boy in the forest. A drought means that the Twrch Trwyth has to start encroaching on farmland for his food. The farmers persuade King Arthur to fight agains the wild boar. The fighting is terrible and many men are killed.


One day Arthur discovers that the magic gold has been stolen from under his throne by one of his own people. He goes to talk directly to the wild boar and they agree to help each other.

The traitor arrives with an army.


The boar runs away to save the boy and Arthur is put in prison. Later the boy and the boar saves Arthur and it is the young boy who has to face up to the traitor. He succeeds, Arthur is king again and the Twrch Trwyth returns to Ireland with golden comb and scissors between his ears as a reward

Owain a’r Tylwyth Teg, Stori Ysgol Ffairfach/Ysgol Ffairfach's story, Owain and the Fairies

Amser maith yn ôl roedd y tylwth teg yn byw yng nghastell Dinefwr. O gwmpas y castell mae blodau, coed a gwair.

Roedd un dylwythen deg arbennig yn dawnsio pob Gŵyl Ifan, sef Mehfin 21ain, yng nghanol y castell. Roedd gwallt pinc a frog goch gyda blodau pinc arno gyda’r tylwedd teg. Roedd gan y tylwyth teg adenydd pert.

Roedd brenin twe, cas yng nghastell Dinefwr. Mae'm taro pobl sy'n mynd mewn i'r castell. Mae'n torri penau y bobl off. Ma e gwallt du ac lygad glas gyda'r brenin. Mae’r brenin yn cael cacen pob dydd.

Doedd y brenin cas hwnnw ddim yn hoffi bod y tylwyth teg yn dawnsio yng nghanol y castell. Roedd y brenin yn dweud pethau cas i’r tylwyth teg.

“Rwy ti’n hyll ac y drewi. Rwyt ti’n dwp ac yn torri’r blodau pryd rwt ti’n dawnsio. Cer i fwrdd a paid â dod nol.

Daliodd y brenin y dylwythen deg a torrodd e ei

ffon hud hi ac rhoddodd hi mewn twll mewn coeden yn Fforest Dinefwr a rhoi bariau dros y twll. “Fyddi di byth yn dod mas o fan ‘na a byddi di’n ffaelu dawnsio” chwarddodd y brenin.

Roedd marchog o’r enw Owain oedd yn garedig iawn i bobl dlawd. Roedd llygad brown a gwallt melyn gydag Owain. Roedd yn ddewr ac y gryf ac yn gallu ymladd yn dda. Doedd y brenin ddim yn hoffi Owain achos bod pobl yn hoffi Owain yn fwy na fe.

Awr yn ddiweddarach roedd Owain yn dod heibio ar gefn ceffyl pan glywodd e sŵn crio yn y pellter. Edrychodd e o gwmpas ac roedd yn gallu gweld twll gyda bariau drosto .

Edrychodd Owain i mewn i’r twll a gwelodd y dylwythen deg yn gorwedd a crio.

“Beth sy’n bod?” dwedodd Owain.

“Mae problem gen i” dywedodd y dylwythen deg

“Beth yw’r problem?

“Rydw i eisiau dawnsio yng nghanol y castell ar Gŵyl Ifan ond mae’r brenin yn cael ffair ac mae e wedi dweud ‘DIM DAWNSIO I’R TYLWYTH TEG!’ ond mae rhaid i fi ddawnsio neu dydw i ddim gallu bod yn dylwythen deg”.

Dwedodd Owain “Bydda i’n helpu ti os byddi di’n helpu fi”.

“O diolch” dwedodd y dylwythen deg.

“Bydda i’n gallu torri’r bariau mewn un munud gyda ngwawffon i’’.

“O diolch eto’’. Wedyn gofynodd y dylwythen deg “Beth yw dy broblem di?”.

Dwedodd Owain “Rydw i eisiau mynd mewn i’r castell i helpu pobol dlawd ond dydy’r Brenin ddim yn fy ngadael i mewn”

Wna i dy helpu di!” dwedodd y dylwythen deg.

“Mae cloch i gael sydd yn galw holl dylwyth teg y byd. Yr unig broblem yw ei bod hi’n cael ei chadw o dan clustog y brenin. Ond os yn ni’n gweithio gyda’n gilydd byddwn ni’n gallu ei chael hi a bydd y tylwyth teg yn dy helpu di.

Mae’r dylwythen deg yn hedfan trwyddo’r corridors ac edrych am ystafell y Brenin. Aeth Owain gyda hi i ddangos y ffordd.

Roedd drws ystafell wely y Brenin ar agor.

Dwedodd y dylwythen deg yn dawel i Owain “Mae’r drws ar agor byddwn ni’n gallu cael y gloch”.

Ond yn sydyn, pryd roedd y dylwythen deg yn tynnu’r gloch o dan y clustog dihunodd y Brenin a gweiddodd.

“Pwy sy yna!” ac mewn ofn dechreuodd hi ganu.

“Cer i gysgu Brenin bach, dim ond breuddwyd fach ydy hon”.

Aeth e nôl i gysgu .

“Roedd hynny’n rhy agos!” Medai’r dylwythen deg wrth ei hunan. Roedd y brenin yn chwyrnu fel mochyn ond yn sydyn dihunodd y Brenin eto achos bod y gloch wedi gwneud swn.

“BETH!”Gweiddodd y Brenin. Roedd y dylwythen deg wedi hedfan mas trwy’r ffenest gyda’r gloch ond cafodd Owain ei ddal a’i daflu i mewn i’r carchar.

“Yn y bore rwy’n mynd i dorri dy ben di bant!”

Gwaeddodd y brenin. Roedd Owain yn crynu dan ofn.

Canodd y dylwythen deg y gloch ac daeth pum deg mil o Dylwyth Teg.

Daethon nhw i gyda mewn i’r goedwig a gadawon nhw Owain yn rhydd o’r carchar.

Tarodd hi’r gloch gyda’r ffon

Mae’r swn fel cant o adar yn canu’n bert.

Mae’r adar yn canu i’r milwyr ac roedd y milwyr wedi mynd i gysgu.

A gwnaethon nhw arfwisg mas o llygaid y dydd, blodau ymenyn, rhosynod a gwair

Roedd y arfwisg yn meddal ond yn gryf.

Roedd y clefydd yn hir ac yn brydferth.

Roedd y helmed yn gryf ac yn lliwgar.

Dwedodd y dylwythen deg bod ar ôl hanner nos byddai’r arfwisg yn troi nôl yn flodau a gwair. “FELLY, BYDDA’N OFALUS”

Canodd y tylwyth teg gân arbennig i Owain

“Wel, ‘te, bant â fi i’r castell i ymladd yn y twrnament!”

Roedd cant tri deg un o bobl yn y ffair mawr. Pan gyrhaeddodd Owain dyma bawb yn gweiddi “Marchog Enfys!”

Enillodd Owain y twrnament ymladd. Enillodd e arian o’r Brenin Cas a’i rhoi i blant neis a’r bobl dlawd.

“Wyt ti’n dwp? Pwy wyt ti a pam wyt ti’n gwneud hynny?”.

Tynnodd Owian y helmet a gwelodd pawb Owian. “OWAIN!” screchodd y brenin gyda wyneb cas. A dychreuon nhw ymladd gyda cleddyfau .Enillodd Owian a lladdodd e’r brenin. Ac wedyn Owain oedd y brenin ac mae’r tylwyth teg yn gallu dawnsio pob Gŵyl Ifan.

Wednesday 10 June 2009

Ymweliad Ysgol Llangadog

Dyma farn rhai o blant Dosbarth 3 Ysgol Llangadog am y cywaith:

Rydw i wedi mwynhau gwneud stori wreiddiol a gweithio mewn grwpiau i'w greu. Mae wedi bod yn hwyl. - Non

Dyna beth oedd hwyl mynd o gwmpas y castell a gwrando ar y storiau. - Hannah

Roedd yn hwyl mynd i'r castell a gwneud y stori. - Gwenllian



Here are some comments about the project, from children in Class 3 Ysgol Llangadog:

I enjoyed making original stories stories and working in groups to create them. It was fun. - Non

It was a lot of fun going around the castle and listening to the stories. - Hannah

It was fun going to the castle and making the story. - Gwenllian

Ifan y Porthmon, Stori Ysgol Llangadog/ Ysgol Llangadog's story - Ifan the drover

Unwaith Roedd yna borthmon ifanc o’r enw Ifan oedd yn byw yn Llangadog. Un diwrnod roedd rhaid iddo fynd â gwartheg y Marchog Cas o Langadog i Lundain. Roedd y Marchog Cas yn greulon ac yn hunanol.


“Ond os colli di un o’r gwartheg bydda i’n torri dy ben di bant!” gwaeddodd y marchog cas.

“Iawn, iawn rydw i wedi cymryd llwyth o wartheg i Lundain o’r blaen” dywedodd Ifan.


“Ond cofia mod i eisiau’r arian i gyd” atgoffodd y Marchog Cas


“Iawn, dydy o ddim yn broblem.”

Cyrhaeddodd Ifan y cae a rhoi’r gwartheg i mewn , “Cewch bori yn y cae am y nos”. Aeth Ifan i gysgu.


“Cocadwdldŵ!” Cafodd ei ddeffro gan y ceiliog am chwech o’r gloch y bore.


Cododd Ifan ond roedd y gwartheg wedi diflannu. Roedd Ifan yn teimlo’n drist iawn, iawn. Roedd yn gwybod byddai’n cael ei ladd.


“O na, rydw i mewn trwbwl” meddyliodd Ifan.


Cnociodd ar ddrysau’r pentref nes iddo gael ateb. Aeth i’r fferm, i’r siopau a’r tai.


“Helo, Ifan dw i. Rydw i wedi colli’r gwartheg. Ydych chi wedi gweld nhw?” gofynodd Ifan i wraig y tŷ.


“Na, dydw i ddim wedi gweld y gwartheg “ dywedodd y wraig. “Ond beth am chwilio yn y goedwig?”


Chwiliodd a chwiliodd ym mhob twll a chornel yn y goedwig ond welodd e ddim byd. Hefyd, aeth ar goll.


“Ble mae’r gwartheg? Ble, ble?” gwaeddodd Ifan.

Eisteddodd Ifan i lawr, yna ddechreuodd grio. Roedd yn ddigalon iawn oherwydd roedd e’n meddwl bod ei ben yn mynd i gael ei dorri bant.


“Ein Tad, plis plis paid â gadael i’r Marchog Cas dorri fy mhen i bant.”


Yn sydyn clywodd Ifan sŵn rhyfedd yn dod o’r goeden. Yna clywodd e lais yn gofyn “Alle ti helpu fi?”

“Beth yw’r sŵn ‘na?” meddai Ifan


“Fi sy ‘ma” meddai’r llais o tu ôl iddo. Trodd e rownd a gweld derwen. “Helo, fi sy’n siarad. Y goeden!”


“Beth!” meddai Ifan mewn sioc.


“Trodd y Marchog Cas fi yn goeden achos fod e ddim yn fy hoffi a dw i eisiau troi nôl yn fachgen ifanc. Wna i dy helpu di os wnei di fy helpu fi. Mae rhaid i ti gael y bêl aur o wlad y tylwyth teg.”


“Ond ble mae Gwlad y Tylwyth Teg?” meddai Ifan


“Mae rhaid i ti fynd i’r castell a mynd i’r dungeon i balu twll yn y llawr a wedyn byddi di’n gweld dŵr. Nofio i lawr i’r gwaelod ac yna mae drws. Agora’r drws a dyna wlad y Tylwyth Teg. Pob lwc!”


Ond sut y caiff Ifan fynd i mewn i’r castell? Gwisgodd Ifan fel Twm Sion Cati, yn ddu i gyd fel frân yn hedfan. Roedd het trichorn am ei ben a mwgwd du yn cuddio ei lygaid.

Cerddodd yn araf iawn fel malwoden i’r castell yn ofnus.

Cnoc, cnoc cnoc ar y drws. Yn sydyn daeth y marchog cas i’r drws gan stampio yn ei bwts mawr swnllyd. Roedd ganddo lygaed cyfrwys fel cadno ac roedd yn dew fel bws.


“Pwt wyt ti?” meddai’r marchog cas mewn llais gryf


“Twm Sion Cati ydw i, ac rwy’n gryfach na ti!”


“Milwyr ewch â hwn i’r dungeon” a dyna beth oedd Ifan eisiau.


Roedd y dungeon yn ddrewllyd fel twlc mochyn ac roedd yn oer fel iâ. Cwympodd Ifan yn galed ar y llawr pan daflodd y milwyr e i mewn. Cafodd ddolur ar en a’i drwyn.

Roedd yna garreg lwyd yn rhydd yn y wal a dechreuodd balu twll enfawr yn y llawr gyda hi nes iddo weld dŵr.

Cafodd ofn y dŵr glas achos ei fod e ddim yn gallu nofio. Roedd Ifan yn dechrau becso wrth weld y dŵr dwfn.

Meddyliodd Ifan wrth ei hun. “Beth ydw i’n mynd i’w wneud? Mae dim ond un peth amdani!”


Daliodd ei drwyn, anadlodd yn ddwfn trwy ei geg a neidiodd i mewn i’r dŵr fel pysgodyn llipa.


Yn sydyn agorodd ei lygaid a chafodd fraw wrth i’r tylwyth teg ymddangos o nunlle. Aeth i weld y frenhines brydferth i adrodd am yr helynt a ddigwyddodd iddo.

Roddodd y frenhines y bêl aur i Ifan ac mae hi’n dweud mai ei mab hi sydd wedi cael ei droi i mewn i goeden. Roedd y Marchog Cas wedi gwneud hyn achos fod e ddim yn hoffi’r tylwyth teg ac roedd eisiau cael gwared ohonynt am byth.

Aeth e yn ôl i’r goedwig gan gario’r bêl aur yn ofalus iawn. Roedd yn hapus achos ei fod e wedi llwyddo cael y bêl! Gwelodd Ifan dwll gwdihŵ yn uchel yn y goeden “O, twll gwdihŵ. Alla i daflu’r bêl mewn.” Taflodd Ifan y bêl i’r twll


Yn sydyn roedd y llawr yn crynu fel jeli ar drên. Daeth gwreichion mas o’r goeden a daeth mwg du trwchus mas o’r goeden hefyd. Mae’r goeden yn torri yn ddarnau bach a mawr. Yn sydyn ymddangosodd y bachgen lle roedd y goeden

“O diolch yn fawr iawn” meddai’r bachgen yn ddiolchgar.


“Croeso” atebodd Ifan “Rydw i wedi siarad gyda dy fam. Hi wedodd wrtha i bod y marchog cas wedi dy droi di yn goeden.

Yn sydyn gwelodd y bachgen siap yn symyd tuag atynt ochr arall y goeden.


“Beth yw hwnna?”

Dyn ar gefn ceffyl oedd yn dod


“O, na y marchog cas yw e!” dywedodd Ifan.


Neidiodd y ceffyl mawr du dros yr afon Tywi a tynnodd y marchog ei gleddyf. Roedd yn rhy hwyr i redeg Yn sydyn ymysododd y gwdihŵ ar y marchog cas gan bigo ei lygaid a chicio a chicio. Amser roedd y marchog cas yn cau ei lygaid aeth y dau ddyn rownd a gwthion nhw yn galed.

Cwympodd y Marchog Cas yn yr afon Tywi. Yn sydyn tyfodd y darnau o bren derw yn fwy ac yn fwy. Wedyn ymddangosodd flew a chynffonnau a phennau. Dechreuodd sŵn rhyfedd ddod o’r darnau. Swn brefu ydoedd. Yna dyna lle roedd y gwartheg gwynion roedd Ifan wedi’u colli.

Aeth Ifan i Wlad y Tywyth Teg gyda’i ffrind ac weithiau mae’n dod nol ac mae’i warthog yn pori. Ambell waith mae buwch yn aros yma a nhw yw gwartheg gwyn Dynefwr. Er mwyn dweud diolch am gael defnyddio’r borfa mae Ifan yn rhowlio ei bêl aur ar hyd y glaswellt ac pryd mae’n gwneud hynny mae blodau y menyn yn ymddangos, yn digleirio fel aur ar y caeau.

Ifan the drover loses the knight’s special white cattle. Fearing for his life he searches for them and finds a talking tree. The tree sends him to Gwlad y Tylwyth Teg, the land of the fairies where he meets the queen and gets a golden ball with which he disenchants the tree, defeats the horrid knight and goes to live in Gwlad y Tylwyth Teg, although sometimes he does come back.