Saturday 27 June 2009

Stori Ifan y Barbwr, Dosbarth 4 Ysgol Dolbadarn/Ysgol Dolbadarn class 4 story, Ifan the Barber

Barbwr oedd Ifan, barbwr clen, dipyn yn swil. Ifan oedd y barbwr gorau un yn y wlad. Roedd yna dywysoges hardd... wel... hyfryd a deud y gwir. Ei henw oedd Mair Mwyn gan ei bod yn ferch annwyl iawn. Roedd mair yn byw mewn castell hyfryd hyfryd iawn. Roedd efo'r gwallt mwya hardd yn y wlad, gwallt melyn disglair.
Un diwrnod cafod Ifan y Barbwr y job mwya cafodd o rioedd - gwaith torri a lliwio gwallt mair y dywysoges, oherwydd roedd Mair Mwyn yn priodi rhyw dywysog o'r enw Simon.
Pan orffennodd dorri a lliwio gwallt Mair y dywysoges sylweddolodd Ifan bod llond botel o liw gwallt wedi disgyn ar gefn y ffrog, ac roedd staenanferth, hyll ac roedd y ffrog yn edrych yn ofnadwy. Roedd gan Ifan ofn am ei fywyd, wir rwan... roedd o wedi dechra mynd yn goch!
"Ifan" gofynodd y dywysoges "tra mae fy ngwallt yn sychu, wnei di chwarae y bib hardd, swynol i mi"
"Y, ia... iawn" a dyma Ifan yn chwarae'r offeryn. Gafaelodd Ifan yn dynn ac yn nerfus ar y bib ac yn ei chwarae i'r dywysoges hardd a dyna hi yn ymlacio.
Ond dyma geiriau y gwirionedd yn dod allan o'r bib:
"Mae staen enfawr ar dy ffrog hardd di", synnodd Ifan a'r dywysoges yn fawr iawn oherwydd bod y bib yn siarad!
Gwelodd y dywysoges y staen ar y ffrog a gwylltiodd tan aeth yn goch fel tomato poeth. Taranodd Mair Mwyn "Os to ddim yn cael y staen enfawr oddi ar y ffrog hardd erbyn 'fory yma fydda chdi ddim hefo pen!"
Aeth Ifan bach lawr at y llyn i feddwl am beth oedd wedi ei wneud i ffrog y dywysoges. Roedd mor flin mi luchiodd o y bib i'r llyn. Yn sydyn iawn gwelodd Ifan ben bach pluog hwyaden. Roedd yn edrych yn flin iawn. "Rwyt wedi fy nharo i!"
Synodd Ifan fod yr hwyaden yn gallu siarad. Dywedodd Ifan wrth y hwyden ei fod e’n mynd i gael ei ben wedi ei dorri i ffwrdd os dydi o ddim yn cael gwared o’r staen ar y ffrog erbyn fory.

“O, na beth ydw i’n mynd i wneud?”

“Beth wyt ti’n myn i wneud?” meddai’r hwyden yn grac.

“Gwranda ar fy mhroblem i. Mae Mam wedi mynd i chwlio am fwyd a dw i’n gorfod edrych ar ôl y rhai bach a dw i wedi eu colli nhw i gyd – yr wyth ohonyn nhw!” Roedd y hwyaden yn teimlo’n drist ac roedd Ifan yn ofni cael ei ben wedi torri i ffwrdd..

Dywedodd yr hwyaden “Wna i dy helpu di os wnei di fy helpu fi”

“Ie, ie! Wrth gwrs” meddai Ifan.

Gwelodd ifan canŵ ar ochr y llyn. Neidiodd Ifan i mewn i’r canŵ bach a rhwyfo mor gyflym a fedrai fo a’r hwyden yn hedfan wrth ei ymyl o. Roedd Ifan yn rhwyfo yn galed iawn, iawn.

Dechreuodd ei freichiau frifo yn ofnadwy ond cariodd ymlaen i rwyfo. Gwelodd Ifan yr hwyaid bach yn mynd tuag y rhaeadr fawr o’i flaen o .

“O, na!” meddai’r hwyaden. “Mae nhw’n mynd i gael eu lladd ac wedyn bydd Mam yn fy lladd i!”

“Rhaid i mi eu helpu nhw!”meddai Ifan

Rhuthrodd at yr hwyaid i achub nhw. Cododd yr hwyaid bach un ar y tro i fyny ar y canŵ efo’r rhwyf. Teimlodd Ifan yn falch ond yn sydyn sylweddolodd Ifan bod y canŵ yn symud efo’r llif tuag at y rhaeadr.

Yn sydyn gwelodd Ifan y bib yn y dŵr. Cododd y bib o’r dŵr a’i ganu fo.

“Arafa dŵr” meddai’r bib a dyma’r dŵr yn arafu a neidiodd Ifan a’r hwyaid ar y tir yn saff ac yn ddiolchgar.

“Oes ‘na ddŵr dal yn y bib?” gofynodd y hwyaden.

“Oes. Pam?” gofynodd Ifan.

“Dw i’n meddwl bod y dŵr am llnau y ffrog.

“Rhowch o yn fy ngheg” Dywedodd y hwyaden” “OK” meddai Ifan gan dywallt y dŵr yn ei cheg.

Aeth y hwyaden at ffenest ystafell y dywysoges a gollwng y dŵr ar y ffrog.

“Hwrê, mae’r ffrog yn lan!” meddai Ifan “Diolch i’r hwyaden”.

Ar y diwrnod mawr roedd pawb yn gwenu’n braf . Cododd Ifan y bib a’i ganu a dyma’r gwirionedd yn dod allan “Mae Ifan yn caru’r Dywysoges”

Ar ôl clywed y geiriau roedd pawb yn stond. Roedd pawb yn edrych ar eu gilydd fel lloi. Wedyn chwarddodd pawb ar ben Ifan.

Roedd y brenin efo ei geg ar agor ar ôl clywed bod Ifan y barbwr yn caru ei ferch y dywysoges a gwaeddodd y brenin fel maharan gwyllt “Dos allan a paid byth â dod nôl!”

Cymerodd y tywysog Simon y bib a’i thorri hefo ei benglin. Crac!

“Peidiwch â gwrando ar y hen bib.” Gwaeddodd o “Mwy o win! Mwy o gig!”

Wedyn edrychodd y dywysoges ar y bib ac roedd yn gyfan oherwydd roedd yn hud.

“Wna i weld os ydy’r tywysog yn fy ngharu” meddyliodd Mair.

Cymerodd y bib a’i rhoi i’r tywysog. “Rwy’n gwybod pa mor hyfryd rwyt ti’n chwarae’r bib. Wnei di ganu tiwn bach i mi?”

“Iawn meddai fe” Dyma fo yn chwarae’r bib a daeth y gwirionedd allan.

“Dydw i ddim yn caru Mair. Dw i ond eisiau’r arian a’r tir”

Roedd y brenin yn gacwn gwyllt.

“Dos o ma! Dwyt ti ddim yn haeddu priodi fy merch!” Roedd pawb yn pwyntio at y drws.

Aeth y tywysog cas trwy’r drws yn flin ac wedyn pwy ddoth mewn ond Ifan! Roedd pawb yn cychwyn clapio. Ac ar ôl Ifan daeth yr hwyaid dan ganu ac roedd gan y fam y modrwyon.

“Beth sy’n mynd ymlaen gofynnodd Ifan”

“Paid â phoeni, Ifan” meddai’r brenin “mae popeth yn iawn”

Ganodd y dywysoges y pib ac oedd y gwirionedd yn dod allan.

“Mae’r Dywysoges yn caru Ifan!”

Ac mae’r ficer yn darllen o’r llyfr an yn gweddïo. Ac mae’r bib hud yn canu hefyd ar ei ben ei hun. Mae’r hwyaid yn rhoi’r modrwyon ar fysedd Ifan a’r Dywysoges ac mae’r ficer yn dweud “Cewch chi gusanu’r briodferch”

Wedyn roedd Ifan a’r Dywysoges yn byw yn hapus am weddill eu oes.


Ifan the barber is told he will lose his head for ruining the princess’s dress the day before her wedding. With the help of a magic flute that can only tell the truth and a resourceful duck, Ifan makes everything all right again. During the wedding the magic flute reveals that the prince is not so charming after all, and also that the princess and barber love each other. Ifan and the princess live happily ever after.

3 comments:

  1. Sounds like a wonderful story.... hope it goes well for you all, keep up the blogging it helps you make friends from all over the world. I am a bit closer, Kent, England

    all the best xxx

    ReplyDelete
  2. Stori hyfryd, diolch yn fawr plant Ysgol Dolbadarn.

    Jan

    ReplyDelete
  3. Da iawn Ysgol Dolbadarn - stori bendigedig.

    ReplyDelete