Saturday 27 June 2009

Y Twrch Trwyth a'r Brenin Arthur, stori Ysgol Y Bedol/Ysgol Y Bedol's story, King Arthur and Y Twrch Trwyth (a mythological wild boar)

Amser maith yn ôl roedd yna Dwrch Trwyth yn byw yn y goedwig fawr dywyll ar bwys yr Afon Tywi. Roedd y Twrch yn chwech mlwydd oed a cafodd ei eni yn Yr Iwerddon.

Oherwydd camgymeriad cwympodd yn y môr pryd roedd yn dishgwl am fwyd a chafodd ei gario gan y llanw
draw i Gymru, ond hoffai fynd nol at ei rieni. Pob dydd roedd y Twrch yn mynd i’r afon i nôl rhagor o fwyd. Un diwrnod gwelodd y Twrch fachgen bach, tlawd saith mlwydd oed gyda hen flanced tamp dros ei ysgwyddau. Helpodd y bachgen y Twrch i ffeindio rhywbeth i fwyta. Penderfynodd y Twrch ei fod e eisiau bod yn ffrindiau gyda’r bachgen. Roedd y twrch yn gyfrwys ac yn fawr. Roedd ganddo ddanedd hir, pigog, brwnt. Roedd gwallt brown fel siocled bler drosto.

Y Brenin Arthur deyrnasai yn yr ardal. Brenin da oedd Arthur ac yr oedd yn byw mewn castell ar y mynydd. Castell Dinefwr oedd enw’r castell. O dan ei orsedd roedd bocs gyda aur ynddo. Aur hud oedd e. Roedd e wedi bod yn ei deulu ers blynyddoedd ac ar un darn roedd wyneb ei hen hen hen dad-cu. Er mwyn bod yn frenin roedd rhaid eistedd ar ben yr aur hudol.

Ar ol haf poeth sychodd yr Afon Tywi a dim ond tamed bach o ddwr oedd ar ôl. Sychodd y mwd, aeth i edrych fel siocled. Ar ôl i’r mwd craco aeth y mwd fel dail sych wedi marw.

Bwytodd y Twrch Trwyth popeth oedd yn ei ffordd sef pysgod, mwydod a madfallod y dŵr ond nawr mae’n bwyta anifeiliaid y ffermwyr! Defaid, gwartheg, ceffylau, geifr, cwn, cathod, twrcis ,ieir a chwningod. Roedd e’n dwgyd pethau heb ofyn. Roedd eisiau bwyd pob munud. Roedd e’n slopian a rhwygo croen anifaeliaid bach a mawr. Roedd e'n bwyta fel lleidr yn dwgyd.

Roedd wynebau’r ffermwyr yn gwgu oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud. Roedd ffermwr arall â stem yn dod allan o’i glustiau. Roedd un ffermwr mor grac roedd ei wyneb yn lliw tomato! Trafododd y ffermwyr a penderfynu mynd at y Brenin Arthur. Rhedon nhw i gastell Arthur fel tarannau trwy’r awyr. O’r diwedd cyrhaeddon nhw.

“Arthur agor y drws yma nawr!” bloeddion nhw. Agorodd Arthur y drws a dweud “Wnawn ni ymladd y Twrch Trwyth.Wnawn ni ladd y mochyn!”dywedodd.

Aeth y frwydr ymlaen am bythefnos. Marwodd chwe deg o filwyr yn y frwydr wrth gael eu trywannu yn eu calonnau gan ysgythrau y Twrch Trwyth. Roedd y Brenin Arthur yn gweld y gwair yn troi i mewn i garped coch o waed y milwyr.Un diwrnod ofnadwy o frwydro cafodd mab y Brenin Arthur ei ladd. Fel petai hyn ddim yn ddigon i Arthur edrychodd y Brenin dan ei orsedd a gweld dim. ”Beth” dywedodd Arthur “Rwy’n siwr roddais i aur fy nghyndeidiau o dan yr orsedd. Dydw i ddim yn teimlo fel brenin rhagor. Rwy’n gorfod ffeindio’r aur hud neu fydda i ddim yn frenin rhagor.”

Un noson dywyll ar ôl brwydro’n galed aeth y Twrch Trwyth i orffwys mewn rhyw stabl enfawr yn agos at fferm. Agorodd y gwynt y drws gwychlyd trwm yn araf, araf bach. Yn sefyll ar bwys y drws roedd y Brenin Arthur

“Dw i eisiau de help di!”

“Wel shwmae, Brenin Arthur?”

“Ddim y dda iawn Twrch Trwyth”

“Wel, shwd ydw i’n mynd i’ch helpu chi os nad ydych chi’n fy helpu i? Beth ydy dy broblem fach ‘te?”

“Nid problem fach ydy hi, ond problem fawr! Mae rhywun wedi dwgyd fy arian hudol a heb fy arian hudol fydda ddim yn gallu bod yn frenin. Rwy’n gwybod bod un o’r bobl yn y castell wedi dwyn yr aur ond dw i ddim yn gwybod pwy, felly dydw i ddim yn gallu trystio neb. Felly dw i wedi dod i siarad â ti i weld os yn ni’n gallu helpu’n gilydd heb ymladd. Heblaw am fwyd gallwn fynd â ti nôl at dy deulu di yn Iwerddon”

“Diolch am fy helpu, Arthur” meddai’t Twrch

“Dere ‘ma, machgen i!” gwaeddodd y Twrch Trwyth. Ar ol pum munud cyrhaeddodd y bachgen tlawd. Edrychodd y bachgen ar Arthur ac ar tyscs anferth y Twrch Trwyth. Roeddynt yn bigog, gyda gwaed sych a chroen yn sownd rhwng y danedd.

Yng ngolau cynnes y tân roedd danedd pigog y Twrch Trwyth yn sgleino fel sêr gwyn y nos. Syllodd y bachgen arnynt. Gwelodd y bachgen wyneb ar y tyscs hir, aur.

“Dyna’r wyneb oedd ar fy arian hudol i” meddai’r brenin mewn sioc.

“Edrychwch mae map ar y tyscs” meddai’r bachgen

“Mae croes ar y tysc ar bwys yr afon yn y goedwig” gwaeddodd y brenin

Bant â nhw i chwilio am yr arian hudol yn yr afon sydd yn llifo igam-ogam fel neidr i’r môr.

Yn sydyn clywodd y Twrch Trwyth sŵn rhyfeddol yn dod o tu ôl iddo fe. Sŵn fel dail yn crensian o dan cannoedd o draed.

Daeth milwyr enfawr, gyda chlefyddau a gwaywffyn a’r capten cas rownd y gornel.

“O, na, soch! Dringo lan ar fy nghefn i!” Rhedodd y Twrch Trwyth a’r bachgen ar ei gefn yn gyflym iawn, iawn. Doedd e ddim am i’r bachgen gael ei ladd.

Cipiodd y Capten Cas y Brenin Arthur yn dynn, dynn a dywedodd “Rydw i eisiau bod brenin newydd y byd”

“Fyddi di byth yn frenin dros neb!” gweaddodd Arthur yn wyllt fel y Twrch Trwyth.

“Sori, Arthur, ond rwy wedi yn barod” sgrechodd y Capten Cas yn hapus.

“Helpwch fi, plîs” ymbiliodd Arthur. Twlodd y Capten Arthur yn y carchar.

Am hanner nos clywodd y bachgen sŵn rhyfedd. Arthur oedd e, yn sgrechian fel ci mewn poen.

“Rhaid i ni helpu fe – brenin y byd yw e”

Cyrhaeddodd y Twrch Trwyth a’r bachgen y castell yng nghanol y nos. Roedd pob ystafell yn wag.

O’r diwedd cyrhaeddon nhw’r carchar, edrychodd y bachgen i fewn. Roedd popeth yn ddu fel y nos.

“Arhoswch i’r ochr” dywedodd y Twrch Trwyth a rhedodd trwy’r drws mawr derw. Aeth ei ddanedd hir yn sownd yn y wal. Daeth y Capten cas i mewn a cleddyf yn ei law dan waeddu “Dwi’n mynd i dy ladd di!”

Roedd y Twrch Trwyth a’i tyscs yn swnd yn y wal ac roedd e’n ffaelu symud ac roedd Arthur wedi glymu gyda tsaen. Y bachgen oedd yr unig un ar ôl yn rhydd.

“Ai ti yw’r unig berson sydd yn gallu stopio fi!” dywedodd y Capten yn ffraeth.

Cipiodd y bachgen yn ei flanced a’i daflu dros ben y Capten Cas a’i glymu fe. Wedyn cydiodd yn ei gleddyf a’i ladd.

Adeiladodd milwyr Arthur llong gryf i’r Twrch Trwyth i fynd nôl i Iwerddon i weld ei deulu e a roedd ei wely wedi cael ei wneud allan o fwd ffres a roedd lot o anifeiliad yna am ei de.

Cafodd y Twrch Trwyth siswrn a chrib aur rhwng ei glustiau a chafodd y bachgen fod yn gapten newydd y milwyr. A chafodd y brenin ei aur hudol yn ôl i’w gadw o dan ei orsedd.

The mythological wild boar Y Twrch Trwyth adopts a young boy in the forest. A drought means that the Twrch Trwyth has to start encroaching on farmland for his food. The farmers persuade King Arthur to fight agains the wild boar. The fighting is terrible and many men are killed.


One day Arthur discovers that the magic gold has been stolen from under his throne by one of his own people. He goes to talk directly to the wild boar and they agree to help each other.

The traitor arrives with an army.


The boar runs away to save the boy and Arthur is put in prison. Later the boy and the boar saves Arthur and it is the young boy who has to face up to the traitor. He succeeds, Arthur is king again and the Twrch Trwyth returns to Ireland with golden comb and scissors between his ears as a reward

2 comments:

  1. This is a story about King Arthur that I have never heard - very interesting!

    ReplyDelete
  2. What a wonderful story, much better in welsh than English!

    Jan

    ReplyDelete