Wednesday 10 June 2009

Ifan y Porthmon, Stori Ysgol Llangadog/ Ysgol Llangadog's story - Ifan the drover

Unwaith Roedd yna borthmon ifanc o’r enw Ifan oedd yn byw yn Llangadog. Un diwrnod roedd rhaid iddo fynd â gwartheg y Marchog Cas o Langadog i Lundain. Roedd y Marchog Cas yn greulon ac yn hunanol.


“Ond os colli di un o’r gwartheg bydda i’n torri dy ben di bant!” gwaeddodd y marchog cas.

“Iawn, iawn rydw i wedi cymryd llwyth o wartheg i Lundain o’r blaen” dywedodd Ifan.


“Ond cofia mod i eisiau’r arian i gyd” atgoffodd y Marchog Cas


“Iawn, dydy o ddim yn broblem.”

Cyrhaeddodd Ifan y cae a rhoi’r gwartheg i mewn , “Cewch bori yn y cae am y nos”. Aeth Ifan i gysgu.


“Cocadwdldŵ!” Cafodd ei ddeffro gan y ceiliog am chwech o’r gloch y bore.


Cododd Ifan ond roedd y gwartheg wedi diflannu. Roedd Ifan yn teimlo’n drist iawn, iawn. Roedd yn gwybod byddai’n cael ei ladd.


“O na, rydw i mewn trwbwl” meddyliodd Ifan.


Cnociodd ar ddrysau’r pentref nes iddo gael ateb. Aeth i’r fferm, i’r siopau a’r tai.


“Helo, Ifan dw i. Rydw i wedi colli’r gwartheg. Ydych chi wedi gweld nhw?” gofynodd Ifan i wraig y tŷ.


“Na, dydw i ddim wedi gweld y gwartheg “ dywedodd y wraig. “Ond beth am chwilio yn y goedwig?”


Chwiliodd a chwiliodd ym mhob twll a chornel yn y goedwig ond welodd e ddim byd. Hefyd, aeth ar goll.


“Ble mae’r gwartheg? Ble, ble?” gwaeddodd Ifan.

Eisteddodd Ifan i lawr, yna ddechreuodd grio. Roedd yn ddigalon iawn oherwydd roedd e’n meddwl bod ei ben yn mynd i gael ei dorri bant.


“Ein Tad, plis plis paid â gadael i’r Marchog Cas dorri fy mhen i bant.”


Yn sydyn clywodd Ifan sŵn rhyfedd yn dod o’r goeden. Yna clywodd e lais yn gofyn “Alle ti helpu fi?”

“Beth yw’r sŵn ‘na?” meddai Ifan


“Fi sy ‘ma” meddai’r llais o tu ôl iddo. Trodd e rownd a gweld derwen. “Helo, fi sy’n siarad. Y goeden!”


“Beth!” meddai Ifan mewn sioc.


“Trodd y Marchog Cas fi yn goeden achos fod e ddim yn fy hoffi a dw i eisiau troi nôl yn fachgen ifanc. Wna i dy helpu di os wnei di fy helpu fi. Mae rhaid i ti gael y bêl aur o wlad y tylwyth teg.”


“Ond ble mae Gwlad y Tylwyth Teg?” meddai Ifan


“Mae rhaid i ti fynd i’r castell a mynd i’r dungeon i balu twll yn y llawr a wedyn byddi di’n gweld dŵr. Nofio i lawr i’r gwaelod ac yna mae drws. Agora’r drws a dyna wlad y Tylwyth Teg. Pob lwc!”


Ond sut y caiff Ifan fynd i mewn i’r castell? Gwisgodd Ifan fel Twm Sion Cati, yn ddu i gyd fel frân yn hedfan. Roedd het trichorn am ei ben a mwgwd du yn cuddio ei lygaid.

Cerddodd yn araf iawn fel malwoden i’r castell yn ofnus.

Cnoc, cnoc cnoc ar y drws. Yn sydyn daeth y marchog cas i’r drws gan stampio yn ei bwts mawr swnllyd. Roedd ganddo lygaed cyfrwys fel cadno ac roedd yn dew fel bws.


“Pwt wyt ti?” meddai’r marchog cas mewn llais gryf


“Twm Sion Cati ydw i, ac rwy’n gryfach na ti!”


“Milwyr ewch â hwn i’r dungeon” a dyna beth oedd Ifan eisiau.


Roedd y dungeon yn ddrewllyd fel twlc mochyn ac roedd yn oer fel iâ. Cwympodd Ifan yn galed ar y llawr pan daflodd y milwyr e i mewn. Cafodd ddolur ar en a’i drwyn.

Roedd yna garreg lwyd yn rhydd yn y wal a dechreuodd balu twll enfawr yn y llawr gyda hi nes iddo weld dŵr.

Cafodd ofn y dŵr glas achos ei fod e ddim yn gallu nofio. Roedd Ifan yn dechrau becso wrth weld y dŵr dwfn.

Meddyliodd Ifan wrth ei hun. “Beth ydw i’n mynd i’w wneud? Mae dim ond un peth amdani!”


Daliodd ei drwyn, anadlodd yn ddwfn trwy ei geg a neidiodd i mewn i’r dŵr fel pysgodyn llipa.


Yn sydyn agorodd ei lygaid a chafodd fraw wrth i’r tylwyth teg ymddangos o nunlle. Aeth i weld y frenhines brydferth i adrodd am yr helynt a ddigwyddodd iddo.

Roddodd y frenhines y bêl aur i Ifan ac mae hi’n dweud mai ei mab hi sydd wedi cael ei droi i mewn i goeden. Roedd y Marchog Cas wedi gwneud hyn achos fod e ddim yn hoffi’r tylwyth teg ac roedd eisiau cael gwared ohonynt am byth.

Aeth e yn ôl i’r goedwig gan gario’r bêl aur yn ofalus iawn. Roedd yn hapus achos ei fod e wedi llwyddo cael y bêl! Gwelodd Ifan dwll gwdihŵ yn uchel yn y goeden “O, twll gwdihŵ. Alla i daflu’r bêl mewn.” Taflodd Ifan y bêl i’r twll


Yn sydyn roedd y llawr yn crynu fel jeli ar drên. Daeth gwreichion mas o’r goeden a daeth mwg du trwchus mas o’r goeden hefyd. Mae’r goeden yn torri yn ddarnau bach a mawr. Yn sydyn ymddangosodd y bachgen lle roedd y goeden

“O diolch yn fawr iawn” meddai’r bachgen yn ddiolchgar.


“Croeso” atebodd Ifan “Rydw i wedi siarad gyda dy fam. Hi wedodd wrtha i bod y marchog cas wedi dy droi di yn goeden.

Yn sydyn gwelodd y bachgen siap yn symyd tuag atynt ochr arall y goeden.


“Beth yw hwnna?”

Dyn ar gefn ceffyl oedd yn dod


“O, na y marchog cas yw e!” dywedodd Ifan.


Neidiodd y ceffyl mawr du dros yr afon Tywi a tynnodd y marchog ei gleddyf. Roedd yn rhy hwyr i redeg Yn sydyn ymysododd y gwdihŵ ar y marchog cas gan bigo ei lygaid a chicio a chicio. Amser roedd y marchog cas yn cau ei lygaid aeth y dau ddyn rownd a gwthion nhw yn galed.

Cwympodd y Marchog Cas yn yr afon Tywi. Yn sydyn tyfodd y darnau o bren derw yn fwy ac yn fwy. Wedyn ymddangosodd flew a chynffonnau a phennau. Dechreuodd sŵn rhyfedd ddod o’r darnau. Swn brefu ydoedd. Yna dyna lle roedd y gwartheg gwynion roedd Ifan wedi’u colli.

Aeth Ifan i Wlad y Tywyth Teg gyda’i ffrind ac weithiau mae’n dod nol ac mae’i warthog yn pori. Ambell waith mae buwch yn aros yma a nhw yw gwartheg gwyn Dynefwr. Er mwyn dweud diolch am gael defnyddio’r borfa mae Ifan yn rhowlio ei bêl aur ar hyd y glaswellt ac pryd mae’n gwneud hynny mae blodau y menyn yn ymddangos, yn digleirio fel aur ar y caeau.

Ifan the drover loses the knight’s special white cattle. Fearing for his life he searches for them and finds a talking tree. The tree sends him to Gwlad y Tylwyth Teg, the land of the fairies where he meets the queen and gets a golden ball with which he disenchants the tree, defeats the horrid knight and goes to live in Gwlad y Tylwyth Teg, although sometimes he does come back.

1 comment:

  1. Da iawn chi gyd,'rydw'i wedi mwynhau darllen eich stori yn fawr iawn.

    ReplyDelete